OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1864 (Cy. 202)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Tai (Benthyciadau Ffioedd Gwasanaeth) (Diwygio) (Cymru) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tai (Benthyciadau Ffioedd Gwasanaeth) 1992 (“Rheoliadau 1992”) sy'n darparu bod awdurdodau tai yn cael gwneud benthyciadau i'w tenantiaid mewn cysylltiad â ffioedd gwasanaeth am atgyweiriadau neu welliannau. Mae'r diwygiadau sy'n gymwys o ran Cymru'n unig, yn ymwneud â benthyciadau sy'n cael eu gwneud o dan y pŵer disgresiynol yn rheoliad 5 o Reoliadau 1992. Caiff y pŵer hwnnw ei arfer, mewn cysylltiad â fflatiau, gan “awdurdodau tai”. Mae'r term Saesneg “housing authority”, sy'n cyfateb i’r term Cymraeg “awdurdod tai” at ddibenion y diwygiadau hyn, wedi ei ddiffinio yn adran 450B(4) o Ddeddf Tai 1985.
Mae rheoliad 2 yn disodli rheoliad 6(2) o Reoliadau 1992 i ddarparu bod benthyciad sy'n cael ei wneud o dan y pŵer yn rheoliad 5 yn cael bod ar delerau nad ydynt yn ei gwneud yn ofynnol bod llog yn cael ei dalu neu sy'n ei gwneud yn ofynnol bod llog yn cael ei dalu ar ran yn unig o'r benthyciad.
Mae rheoliad 3 yn diwygio paragraff 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 1992 o ganlyniad i'r rheoliad 6(2) newydd.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1864 (Cy. 202)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Tai (Benthyciadau Ffioedd Gwasanaeth) (Diwygio) (Cymru) 2011
Gwnaed 26 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Gorffennaf 2011
Yn dod i rym 19 Awst 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 450B a 450C o Ddeddf Tai 1985([1]), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Benthyciadau
Ffioedd Gwasanaeth) (Diwygio) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 19
Awst 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Tai (Benthyciadau Ffioedd Gwasanaeth) 1992([3]).
Telerau benthyca
2. Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio drwy roi'r canlynol yn lle paragraff (2) o reoliad 6 (telerau benthyca)—
“(2) A loan made by virtue of regulation 5 may be made on terms that—
(a) do not require the payment of interest; or
(b) require the payment of interest only on part of the loan;
and, shall otherwise, subject to paragraph (3), be on such terms as the lender may determine.”.
Cyfradd y llog
3. Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio, ym mharagraff 1 o Atodlen 2, drwy fewnosod ar ôl y gair “loan” y geiriau “or the part of it on which interest is payable”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
26 Gorffennaf 2011
([2]) Mewnosodwyd adrannau 450B a 450C gan adran 5 o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63). Diwygiwyd adran 450B gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), adran 140, Atodlen 16, paragraffau 5 a 17 a chan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15), adran 150, Atodlen 9, paragraffau 1 a 3. Diwygiwyd adran 450B hefyd gan O.S. 2008/3002 ac O.S. 2010/866. Diwygiwyd adran 450C gan adran 308 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 450B a 450C, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) erthygl 2 ac Atodlen 1. O dan baragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae'r swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.